Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Hemoffilia a Gwaed wedi’i Heintio
Dyddiad: 24.1.24
Amser: 11:00–12:00
Yn bresennol:
Rhun ap Iorwerth AS |
Cai Evans |
Rhys Hughes |
Lee Stay |
Lynne Kelly |
Tom Jones |
Michael Imperato |
Norman |
Alex Still |
Marcus Lewis |
Mark Isherwood |
Lucy O’Brien |
Andrew Bettridge |
Nigel Miller |
Jane Jones |
Paul May |
Sue |
Anthony Lane |
Shauna |
Michael O’Connell |
Jodie |
Sybil Fowler |
Brian Longford |
Tony |
Christine Fox |
Sam Richards |
Bev Tum |
Evelyn |
Debbie James |
|
Cofnodion:
Rhun ap Iorwerth yn agor y cyfarfod
· Sicrhau bod y gwasanaethau cyfieithu’n gweithio
· Diolch i bawb am ddod a darllen yr ymddiheuriadau
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
· Rhun yn esbonio proses y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
· Cadeirydd: Rhun ap Iorwerth yn cynnig ei enw i barhau fel cadeirydd
Ø John Griffiths (Dirprwy)
Ø Altaf Hussain (Dirprwy)
Ø Peredur Owen Griffiths (Dirprwy)
· Neb yn gwrthwynebu – Rhun ap Iorwerth yn parhau fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol
· Is-gadeirydd: Hefin David yn cynnig ei enw i barhau fel Is-gadeirydd
Ø John Griffiths (Dirprwy)
Ø Altaf Hussain (Dirprwy)
Ø Peredur Owen Griffiths (Dirprwy)
· Neb yn gwrthwynebu – Hefin David yn parhau fel Is-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol
· Ysgrifenyddiaeth: Lynne Kelly (Haemophilia Wales) yn cynnig ei henw i barhau i ddarparu ysgrifenyddiaeth
Ø John Griffiths (Dirprwy)
Ø Altaf Hussain (Dirprwy)
Ø Peredur Owen Griffiths (Dirprwy)
· Neb yn gwrthwynebu – Lynne Kelly yn parhau fel Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol
Eitem 1 – Lynne Kelly yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp
· Yr adroddiad terfynol wedi’i ohirio tan 20 Mai
· Lynne yn rhoi crynodeb o hanes gwaith y comisiwn a’r hyn a oedd wedi’i gynnwys ym mhob adroddiad interim
· Trafod gwelliant Diana Johnson i’r Bil Dioddefwyr a Charcharorion ym mis Rhagfyr 2023 sy’n gosod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i sefydlu corff digolledu hyd braich ledled y DU
· Ychwanegu ei fod wedi’i ddarllen yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ddiwrnod y cyfarfod, ond na fyddai’r adran ar y corff digolledu’n cael ei thrafod tan 5 Chwefror
· Lynne yn trafod llythyr Julie Morgan AS ar y cyd â Llywodraeth yr Alban ynghylch cyfarfod â’r Tâl-feistr Cyffredinol
· Lynne yn mynegi pryder efallai mai dim ond Cymru a Lloegr y byddai’r corff digolledu’n eu cwmpasu
· Pryderon yn cael eu codi hefyd ynghylch diffyg amserlen a chynllun ar gyfer sefydlu’r corff hyd braich
· Lynne yn dod â’i chyfraniad i ben drwy holi pam na all y gwaith hwnnw ddechrau nawr
Eitem 2 – Michael Imperato yn rhoi diweddariad cyfreithiol
· Mynegi pryderon na fydd iawndal yn cael ei dalu i’r DU gyfan
· Angen eglurhad pellach gan Syr Brian Langstaff ynghylch a yw’r argymhelliad yn argymell corff digolledu ledled y DU yn benodol
· Michael yn dweud ei fod o’r farn mai’r cam cyntaf yw sefydlu corff cysgodol, ac nad oes dim yn atal Llywodraeth y DU rhag gwneud hynny heddiw
· Cydnabod bod y gwaith manwl eto i’w wneud, ond bod Llywodraeth y DU fel petai’n llusgo’i thraed o ran yr elfennau sylfaenol
· Angen i’r elfennau sylfaenol ddechrau, a hynny ar fyrder, er mwyn rhoi hyder i ddioddefwyr y daw cyfiawnder
· Mynegi pryder fod dioddefwyr yn marw wrth aros am gyfiawnder, a dweud mai dyna pam ei bod mor bwysig gweithio’n gyflym
· Rhai’n dod at Lywodraeth Cymru i ofyn am iawndal, ond Llywodraeth Cymru yn glir bod hynny y tu allan i gymhwysedd datganoledig
Eitem 3 – Gwahodd trafodaeth ehangach
Jodie – A fydd gwaith ar hyn yn cael ei ohirio tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol?
· Rhun yn dweud y gallem ddyfalu ond nad yw hynny’n glir
· Michael yn awgrymu y gallai’r Llywodraeth bresennol fod am wario llawer o arian cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, ond yn cytuno nad yw’n glir
· Lynne yn dweud na chafwyd ymrwymiad pendant gan yr wrthblaid swyddogol y byddai’n gweithredu ar fyrder yn hyn o beth
· Lynne yn codi’r ffaith y gofynnwyd i Penny Mordaunt AS a fyddai angen drama, yn debyg i’r un ar yr is-bostfeistri, er mwyn i’r mater hwn gael sylw ar yr agenda wleidyddol brif ffrwd
· Lynne yn esbonio bod sgyrsiau’n mynd rhagddynt i weld a fyddai’n bosibl dod â hyn i’r sgrin.
· Mae’n fater o allu gwneud hynny mewn ffordd sy’n crynhoi sgandal sydd mor eang
· Gallai fod rhywfaint o stigma hefyd ynghylch y rhai sy’n dioddef o salwch
· Rhun yn dweud bod adrodd straeon yn amlwg yn taro nerf gyda’r cyhoedd yn gyffredinol
Norman – Yn pryderu bod Llywodraeth y DU yn petruso
· Record bleidleisio Sunak yn y gorffennol yn awgrymu nad oes ots ganddo am y mater
· Gweinidogion sy’n gyfrifol am hyn wedi dibynnu’n ormodol ar bapurau briffio yn hytrach na dysgu am wir ddifrifoldeb y sefyllfa
· Gweinidogion hefyd yn amharod i wrando ar ddioddefwyr
· Yr unig reswm mae hyn yn dal i fod ar yr agenda yw bod y genhedlaeth nesaf o ddioddefwyr yn parhau â’r frwydr
Anthony - Y GIG yng Nghymru ddim yn arddel safbwynt swyddogol
· Michael yn nodi bod cyfreithiwr Llywodraeth yr Alban wedi ymddiheuro am hyn, tra bo cyfreithiwr Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy amwys wrth ymddiheuro ar ran ei Lywodraeth
· Rhun yn gwneud pwynt sy’n sefyll ar ei ben ei hun, sef y gallai newid Llywodraeth fod yn gyfle i orfodi gweithredu ar fyrder, ond bod rhaid cael trefn ar bethau er mwyn bwrw ymlaen â’r achos hwn mewn modd clir a threfnus
Bev – Yn trafod ei phrofiad o geisio sicrhau bod drama’n cael ei gwneud am y sgandal hon
· Mwy o ddiddordeb eto yn sgil drama ITV am yr is-bostfeistri
· Aeth ar i lawr ar ôl Covid
· S4C yn ystyried hyn ac yn barod i wrando ar ddioddefwyr
· Lynne yn tynnu sylw at broblem ariannu
· Rhun yn canmol BBC Cymru/S4C am eu cynyrchiadau drama yn ddiweddar ac yn meddwl bod y datblygiad hwn yn swnio’n obeithiol
Sue – Rhoi llwyfan i ddioddefwyr
· LBC yn gofyn i bobl siarad, ond dim ond am tua munud
· Pobl yn cael ysgytwad pan glywant am brofiadau, ond nid ydynt yn clywed digon am y mater
· Mae angen sicrhau bod mwy o sylw’n cael ei roi iddo
· Rhy hawdd iddo gwympo oddi ar yr agenda newyddion oherwydd materion mwy amserol
· Rhun – yr is-bostfeistri yn enghraifft glir fod ots gan y cyhoedd pan fyddant yn deall mwy am fanylion y stori
· Rhun yn canmol y gwaith mae Lynne yn ei wneud i sicrhau bod yr ymgyrch hon yn parhau
Rhun – Yn cloi’r cyfarfod
· Diolch i bawb am ddod ac i Lynne a Michael am gyfrannu
· Awgrymu y dylid pennu dyddiad newydd yn fuan ar gyfer y cyfarfod nesaf
· Esbonio y bydd yn gweithio gyda Lynne a Michael i symud pethau ymlaen unwaith eto ar y mater hwn
· Ategu pwysigrwydd gwthio mor galed ag y gallwn